xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)
Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1609 (Cy. 335)) (“y prif Reoliadau”) er mwyn—
diwygio rheoliadau 6 a 7 o’r prif Reoliadau i ddarparu ei bod bellach yn ofynnol i bersonau sy’n cael canlyniad positif am y coronafeirws hunanynysu am gyfnod o 7 niwrnod (yn hytrach na chyfnod o 10 niwrnod);
darparu, pan oedd yn ofynnol i berson ynysu yn union cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym, fod diwedd y cyfnod ynysu i’w bennu yn unol â rheoliad 6 neu 7 fel y’i diwygir gan y Rheoliadau hyn;
gwneud mân ddiwygiad o ganlyniad i’r newidiadau a wnaed gan y Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 25) 2021 (O.S. 2021/1485 (Cy. 386)).
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. Yn unol â’r Cod, ni chynhaliwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn, oherwydd bod angen eu rhoi yn eu lle ar frys i ymdrin â bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd.