xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
7.—(1) Pan fo’r awdurdod perthnasol yn bwriadu dyfarnu contract am wasanaethau iechyd perthnasol, rhaid i’r awdurdod perthnasol ddilyn y broses a bennir o dan baragraffau (4) i (7).
(2) Pan fo’r awdurdod perthnasol yn bwriadu cwblhau cytundeb fframwaith, rhaid i’r awdurdod perthnasol ddilyn y Broses Gystadleuol.
(3) Mae’r rheoliad hwn yn ddarostyngedig i reoliadau 13 (addasu contractau a chytundebau fframwaith yn ystod eu cyfnod), 15 (rhoi’r gorau i gaffaeliad neu ailadrodd camau mewn proses gaffael) a 18 (contractau sy’n seiliedig ar gytundeb fframwaith).
(4) Rhaid i’r awdurdod perthnasol ddilyn Proses Dyfarniad Uniongyrchol 1 i ddyfarnu contract pan fo’r gofynion a ganlyn wedi eu bodloni.
Mae darparwr presennol ar gyfer y gwasanaethau iechyd perthnasol y mae’r trefniadau contractio arfaethedig yn ymwneud â hwy.
Mae’r awdurdod perthnasol wedi ei fodloni, oherwydd natur y gwasanaethau iechyd perthnasol y mae’r trefniadau contractio arfaethedig yn ymwneud â hwy, fod y trefniant contractio arfaethedig yn gallu cael ei ddarparu gan y darparwr presennol yn unig.
(5) Rhaid i’r awdurdod perthnasol ddilyn un o blith Proses Dyfarniad Uniongyrchol 2, y Broses Darparwr Mwyaf Addas, neu’r Broses Gystadleuol, gyda’r dewis hwnnw yn ôl disgresiwn yr awdurdod perthnasol, i ddyfarnu contract pan fo’r gofynion a ganlyn wedi eu bodloni.
Nid yw’n ofynnol i’r awdurdod perthnasol ddilyn Proses Dyfarniad Uniongyrchol 1 yn unol â pharagraff (4).
Mae cyfnod contract presennol i fod i ddod i ben ac mae’r awdurdod perthnasol yn cynnig contract newydd i ddisodli’r contract presennol hwnnw ar ddiwedd ei gyfnod.
Nid yw’r trefniadau contractio arfaethedig yn newid sylweddol (gweler paragraffau (9) i (12)).
Mae’r awdurdod perthnasol yn ystyried bod y darparwr presennol yn bodloni’r contract presennol ac yn debygol o fodloni’r trefniadau contractio arfaethedig i safon ddigonol.
(6) Rhaid i’r awdurdod perthnasol ddilyn naill ai’r Broses Darparwr Mwyaf Addas, neu’r Broses Gystadleuol, gyda’r dewis hwnnw yn ôl disgresiwn yr awdurdod perthnasol, i ddyfarnu contract pan fo’r gofynion a ganlyn wedi eu bodloni.
Nid yw’n ofynnol i’r awdurdod perthnasol ddilyn Proses Dyfarniad Uniongyrchol 1 yn unol â pharagraff (4).
Nid yw paragraff (5) yn gymwys.
Mae’r awdurdod perthnasol yn ystyried, gan ystyried y darparwyr tebygol a’r holl wybodaeth berthnasol sydd ar gael i’r awdurdod perthnasol ar y pryd, ei fod yn debygol o allu nodi’r darparwr mwyaf addas.
(7) Rhaid i’r awdurdod perthnasol ddilyn y Broses Gystadleuol i ddyfarnu contract pan fo’r gofynion a ganlyn wedi eu bodloni.
Nid yw’n ofynnol i’r awdurdod perthnasol ddilyn Proses Dyfarniad Uniongyrchol 1 yn unol â pharagraff (4).
Nid yw paragraff (5) na (6) yn gymwys.
(8) Pan fo’r awdurdod perthnasol, ar ôl cymryd camau i ddilyn proses gaffael benodol o dan naill ai baragraff (5) neu baragraff (6), yn penderfynu y byddai proses gaffael wahanol yn fwy addas, caniateir i’r awdurdod perthnasol—
(a)penderfynu rhoi’r gorau i’r caffaeliad o dan reoliad 15, a
(b)dethol proses gaffael wahanol yn unol â’r Rheoliadau hyn.
(9) Mae’r trefniadau contractio arfaethedig yn “newid sylweddol” at ddibenion paragraff (5) yn y naill neu’r llall o’r canlynol—
Pan fo’r trefniadau contractio arfaethedig yn sylweddol wahanol o ran cymeriad i’r contract presennol pan ymrwymwyd i’r contract presennol hwnnw, neu
Pan fo’r trothwy newid sylweddol ym mharagraff (10) wedi ei fodloni.
(10) Mae’r trothwy newid sylweddol at ddibenion paragraff (9) wedi ei fodloni pan fo’r holl ofynion a ganlyn yn gymwys—
Mae modd priodoli’r newidiadau yn y gwasanaethau iechyd perthnasol y mae’r trefniadau contractio arfaethedig yn ymwneud â hwy (o gymharu â’r contract presennol) i benderfyniad yr awdurdod perthnasol.
Mae gwerth oes amcangyfrifedig y trefniadau contractio arfaethedig yn £500,000 neu’n fwy na gwerth oes amcangyfrifedig y contract presennol, fel y’i cyfrifwyd pan ymrwymwyd i’r contract presennol hwnnw.
Mae gwerth oes amcangyfrifedig y trefniadau contractio arfaethedig yn 25% neu’n fwy na gwerth oes amcangyfrifedig y contract presennol, fel y’i cyfrifwyd pan ymrwymwyd i’r contract presennol hwnnw.
(11) Nid yw’r trefniadau contractio arfaethedig yn newid sylweddol at ddibenion paragraff (5)—
(a)pan fo’r trefniadau contractio arfaethedig yn sylweddol wahanol o ran cymeriad i’r contract presennol pan ymrwymwyd i’r contract presennol hwnnw, ond nid yw hynny ond o ganlyniad i newid yn hunaniaeth y darparwr oherwydd olyniaeth i mewn i sefyllfa darparwr yn dilyn newidiadau corfforaethol gan gynnwys meddiannu, uno, caffael, neu ansolfedd a bo’r awdurdod perthnasol wedi ei fodloni bod y darparwr yn bodloni’r meini prawf dethol sylfaenol, a
(b)pan na fo’r trothwy newid sylweddol ym mharagraff (10) wedi ei fodloni.
(12) Nid yw’r trefniadau contractio arfaethedig yn newid sylweddol at ddibenion paragraff (5)—
(a)pan na fo’r trefniadau contractio arfaethedig yn sylweddol wahanol o ran cymeriad i’r contract presennol pan ymrwymwyd i’r contract presennol hwnnw, a
(b)pan fo’r trothwy newid sylweddol ym mharagraff (10) wedi ei fodloni, ond bo’r newid rhwng y trefniadau contractio presennol a’r trefniadau contractio arfaethedig yn ymateb i ffactorau allanol sydd y tu hwnt i reolaeth yr awdurdod perthnasol a’r darparwr gan gynnwys newidiadau yn nifer cleifion neu ddefnyddwyr gwasanaethau neu newidiadau mewn prisiau yn unol â fformiwla y darperir ar ei chyfer yn nogfennau’r contract, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt.
8.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo rhaid i’r awdurdod perthnasol ddilyn Proses Dyfarniad Uniongyrchol 1 yn unol â rheoliad 7(4).
(2) Rhaid i’r awdurdod perthnasol—
(a)dilyn y camau a nodir yn y rheoliad hwn, a
(b)dyfarnu unrhyw gontract heb gystadleuaeth.
(3) Rhaid i’r awdurdod perthnasol benderfynu a yw’r trefniant contractio arfaethedig, oherwydd natur y gwasanaethau iechyd perthnasol y mae’r trefniadau contractio arfaethedig yn ymwneud â hwy, yn gallu cael ei ddarparu gan y darparwr presennol yn unig.
(4) Os yw’r awdurdod perthnasol yn penderfynu bod y trefniant contractio arfaethedig yn gallu cael ei ddarparu gan y darparwr presennol yn unig, rhaid i’r awdurdod perthnasol gyflwyno i’w gyhoeddi hysbysiad o fwriad i wneud dyfarniad i’r darparwr presennol.
(5) Rhaid i’r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (4) gynnwys yr wybodaeth a nodir yn Atodlen 2.
(6) Yn dilyn cyhoeddi’r hysbysiad ym mharagraff (4), mae’r cyfnod segur yn dechrau yn unol â rheoliad 12(4).
(7) Pan gyflwynir sylwadau ysgrifenedig yn unol â rheoliad 12(5), rhaid i’r awdurdod perthnasol—
(a)cydymffurfio â’r gofynion a bennir yn rheoliad 12(7) a (9), a
(b)cyfleu’r penderfyniad pellach a wneir o dan reoliad 12(10) ac unrhyw benderfyniadau dilynol pellach a wneir o dan reoliad 12(12), yn unol â rheoliad 12(11) a (13).
(8) Pan na chyflwynir unrhyw sylwadau ysgrifenedig yn unol â rheoliad 12(5), caniateir i’r awdurdod perthnasol symud o gam 2 i gam 4.
(9) Caniateir i’r awdurdod perthnasol ymrwymo i’r contract ar ôl i’r cyfnod segur ddod i ben yn unol â rheoliad 12(14) neu (15).
(10) Os yw’r awdurdod perthnasol yn dyfarnu contract o dan gam 4, rhaid i’r awdurdod perthnasol gyflwyno i’w gyhoeddi hysbysiad am ddyfarnu’r contract o fewn 30 o ddiwrnodau i ddyfarnu’r contract.
(11) Rhaid i’r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (10) gynnwys yr wybodaeth a nodir yn Atodlen 3.
9.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo’r awdurdod perthnasol wedi penderfynu dilyn Proses Dyfarniad Uniongyrchol 2 yn unol â rheoliad 7(5).
(2) Rhaid i’r awdurdod perthnasol—
(a)dilyn y camau a nodir yn y rheoliad hwn, a
(b)dyfarnu unrhyw gontract heb gystadleuaeth.
(3) Rhaid i’r awdurdod perthnasol benderfynu a yw’r darparwr presennol yn bodloni’r contract presennol ac a yw’n debygol o fodloni’r trefniadau contract arfaethedig i safon ddigonol.
(4) Wrth ddod i benderfyniad yng ngham 1, rhaid i’r awdurdod perthnasol ystyried y meini prawf allweddol a chymhwyso’r meini prawf dethol sylfaenol.
(5) Os yw’r awdurdod perthnasol yn penderfynu bod y darparwr presennol yn bodloni’r contract presennol a’i fod yn debygol o fodloni’r trefniadau contractio arfaethedig i safon ddigonol, rhaid i’r awdurdod perthnasol gyflwyno i’w gyhoeddi hysbysiad o fwriad i wneud dyfarniad i’r darparwr presennol.
(6) Rhaid i’r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (5) gynnwys yr wybodaeth a nodir yn Atodlen 4.
(7) Yn dilyn cyhoeddi’r hysbysiad ym mharagraff (5), mae’r cyfnod segur yn dechrau yn unol â rheoliad 12(4).
(8) Pan gyflwynir sylwadau ysgrifenedig yn unol â rheoliad 12(5), rhaid i’r awdurdod perthnasol—
(a)cydymffurfio â’r gofynion a bennir yn rheoliad 12(7) a (9), a
(b)cyfleu’r penderfyniad pellach a wneir o dan reoliad 12(10) ac unrhyw benderfyniadau dilynol pellach a wneir o dan reoliad 12(12), yn unol â rheoliad 12(11) a (13).
(9) Pan na chyflwynir unrhyw sylwadau ysgrifenedig yn unol â rheoliad 12(5), caniateir i’r awdurdod perthnasol symud o gam 2 i gam 4.
(10) Caniateir i’r awdurdod perthnasol ymrwymo i’r contract ar ôl i’r cyfnod segur ddod i ben yn unol â rheoliad 12(14) neu (15).
(11) Os yw’r awdurdod perthnasol yn dyfarnu contract o dan gam 4, rhaid i’r awdurdod perthnasol gyflwyno i’w gyhoeddi hysbysiad am ddyfarnu’r contract o fewn 30 o ddiwrnodau i ddyfarnu’r contract.
(12) Rhaid i’r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (11) gynnwys yr wybodaeth a nodir yn Atodlen 5.
10.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo’r awdurdod perthnasol wedi penderfynu dilyn y Broses Darparwr Mwyaf Addas yn unol â rheoliad 7(5) neu (6).
(2) Rhaid i’r awdurdod perthnasol—
(a)dilyn y camau a nodir yn y rheoliad hwn, a
(b)dyfarnu unrhyw gontract heb gystadleuaeth.
(3) Rhaid i’r awdurdod perthnasol gyflwyno i’w gyhoeddi hysbysiad o fwriad i ddilyn y Broses Darparwr Mwyaf Addas.
(4) Rhaid i’r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (3) gynnwys yr wybodaeth a nodir yn Atodlen 6.
(5) Rhaid i’r awdurdod perthnasol nodi darparwyr posibl a allai fod y darparwr mwyaf addas.
(6) Wrth nodi unrhyw ddarparwyr posibl ym mharagraff (5), rhaid i’r awdurdod perthnasol ystyried y meini prawf allweddol a chymhwyso’r meini prawf dethol sylfaenol.
(7) Ni chaiff yr awdurdod perthnasol gwblhau cam 2 cyn y diwrnod sydd 14 o ddiwrnodau ar ôl y diwrnod y cyflwynir yr hysbysiad o fwriad i ddilyn y Broses Darparwr Mwyaf Addas i’w gyhoeddi yn unol â cham 1.
(8) Rhaid i’r awdurdod perthnasol asesu’r darparwyr posibl a nodwyd yng ngham 2 a dewis y darparwr mwyaf addas i wneud dyfarniad iddo.
(9) Wrth asesu darparwyr posibl a dewis y darparwr mwyaf addas, rhaid i’r awdurdod perthnasol ystyried y meini prawf allweddol a chymhwyso’r meini prawf dethol sylfaenol.
(10) Rhaid i’r awdurdod perthnasol gyflwyno i’w gyhoeddi hysbysiad o fwriad i wneud dyfarniad i’r darparwr a ddewiswyd fel y darparwr mwyaf addas.
(11) Rhaid i’r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (10) gynnwys yr wybodaeth a nodir yn Atodlen 7.
(12) Yn dilyn cyhoeddi’r hysbysiad ym mharagraff (10), mae’r cyfnod segur yn dechrau yn unol â rheoliad 12(4).
(13) Pan gyflwynir sylwadau ysgrifenedig yn unol â rheoliad 12(5), rhaid i’r awdurdod perthnasol—
(a)cydymffurfio â’r gofynion a bennir yn rheoliad 12(7) a (9), a
(b)cyfleu’r penderfyniad pellach a wneir o dan reoliad 12(10) ac unrhyw benderfyniadau dilynol pellach a wneir o dan reoliad 12(12), yn unol â rheoliad 12(11) a (13).
(14) Pan na chyflwynir unrhyw sylwadau ysgrifenedig yn unol â rheoliad 12(5), caniateir i’r awdurdod perthnasol symud o gam 4 i gam 6.
(15) Caniateir i’r awdurdod perthnasol ymrwymo i’r contract ar ôl i’r cyfnod segur ddod i ben yn unol â rheoliad 12(14) neu (15).
(16) Pan fo’r awdurdod perthnasol yn ymrwymo i gontract o dan gam 6, rhaid i’r awdurdod perthnasol gyflwyno i’w gyhoeddi hysbysiad am ddyfarnu’r contract o fewn 30 o ddiwrnodau i ddyfarnu’r contract.
(17) Rhaid i’r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (16) gynnwys yr wybodaeth a nodir yn Atodlen 8.
11.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys—
(a)pan fo rhaid i’r awdurdod perthnasol ddilyn y Broses Gystadleuol o dan reoliad 7(2) neu (7), neu
(b)pan fo’r awdurdod perthnasol yn penderfynu dilyn y Broses Gystadleuol yn unol â rheoliad 7(5) neu (6).
(2) Rhaid i’r awdurdod perthnasol ddilyn y camau a nodir yn y rheoliad hwn.
(3) Rhaid i’r awdurdod perthnasol benderfynu ar feini prawf dyfarnu’r contract neu’r fframwaith.
(4) Wrth benderfynu ar feini prawf dyfarnu’r contract neu’r fframwaith, rhaid i’r awdurdod perthnasol ystyried y meini prawf allweddol a chymhwyso’r meini prawf dethol sylfaenol.
(5) Rhaid i’r awdurdod perthnasol gyflwyno i’w gyhoeddi hysbysiad sy’n gwahodd cynigion i ddarparu’r gwasanaethau iechyd perthnasol y mae’r contract i’w ddyfarnu, neu y mae’r cytundeb fframwaith i’w gwblhau, mewn perthynas â hwy.
(6) Rhaid i’r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (5) gynnwys yr wybodaeth a nodir yn Atodlen 9.
(7) Rhaid i’r awdurdod perthnasol asesu unrhyw gynigion a ddaw i law yn unol â meini prawf dyfarnu’r contract neu’r fframwaith.
(8) Caniateir i awdurdod perthnasol asesu cynigion a ddaw i law o dan gam 3 fesul cam.
(9) Rhaid i’r awdurdod perthnasol wneud penderfyniad ynghylch y darparwr a ddewiswyd.
(10) Rhaid i’r awdurdod perthnasol hysbysu’n brydlon, yn ysgrifenedig—
(a)y darparwr llwyddiannus fod ei gynnig wedi bod yn llwyddiannus, a bod yr awdurdod perthnasol yn bwriadu dyfarnu contract neu gwblhau’r cytundeb fframwaith;
(b)pob darparwr aflwyddiannus fod ei gynnig wedi bod yn aflwyddiannus, a rhaid i hysbysiad o’r fath gynnwys yr wybodaeth a nodir yn Atodlen 10.
(11) Rhaid i’r awdurdod perthnasol gyflwyno i’w gyhoeddi hysbysiad o fwriad i wneud dyfarniad i’r darparwr a ddewiswyd neu i gwblhau cytundeb fframwaith.
(12) Rhaid i’r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (11) gynnwys yr wybodaeth a nodir yn Atodlen 11.
(13) Yn dilyn cyhoeddi’r hysbysiad ym mharagraff (11), mae’r cyfnod segur yn dechrau yn unol â rheoliad 12(4).
(14) Pan gyflwynir sylwadau ysgrifenedig yn unol â rheoliad 12(5), rhaid i’r awdurdod perthnasol—
(a)cydymffurfio â’r gofynion a bennir yn rheoliad 12(7) a (9), a
(b)hysbysu darparwyr posibl am y penderfyniad pellach a wneir o dan reoliad 12(10) ac unrhyw benderfyniadau dilynol pellach a wneir o dan reoliad 12(12), yn unol â rheoliad 12(11) a (13).
(15) Pan na chyflwynir unrhyw sylwadau ysgrifenedig yn unol â rheoliad 12(5), caniateir i’r awdurdod perthnasol symud o gam 6 i gam 8.
(16) Caniateir i’r awdurdod perthnasol ymrwymo i’r contract neu gwblhau’r cytundeb fframwaith ar ôl i’r cyfnod segur ddod i ben yn unol â rheoliad 12(14) neu (15).
(17) Pan fo’r awdurdod perthnasol yn ymrwymo i gontract neu’n cwblhau cytundeb fframwaith o dan gam 8, rhaid i’r awdurdod perthnasol gyflwyno i’w gyhoeddi hysbysiad am ddyfarnu’r contract neu am gwblhau’r cytundeb fframwaith o fewn 30 o ddiwrnodau i ddyfarnu’r contract neu gwblhau’r cytundeb fframwaith.
(18) Rhaid i’r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (17) gynnwys yr wybodaeth a nodir yn Atodlen 12.
12.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo’r awdurdod perthnasol—
(a)yn dilyn Proses Dyfarniad Uniongyrchol 1, Proses Dyfarniad Uniongyrchol 2, y Broses Darparwr Mwyaf Addas neu’r Broses Gystadleuol,
(b)yn dyfarnu contract sy’n seiliedig ar gytundeb fframwaith gyda chystadleuaeth, neu
(c)yn dyfarnu contract sy’n seiliedig ar gytundeb fframwaith heb gystadleuaeth.
(2) Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo awdurdod perthnasol yn dyfarnu contract sy’n seiliedig ar gytundeb fframwaith un darparwr.
(3) Ni chaiff yr awdurdod perthnasol ymrwymo i’r contract na chwblhau’r cytundeb fframwaith cyn diwedd y cyfnod segur.
(4) Mae’r cyfnod segur yn dechrau ar y diwrnod y mae’r awdurdod perthnasol yn cyflwyno i’w gyhoeddi hysbysiad o fwriad i ddyfarnu contract neu gwblhau cytundeb fframwaith yn unol â rheoliad 8(4) (proses dyfarniad uniongyrchol 1), 9(5) (proses dyfarniad uniongyrchol 2), 10(10) (y broses darparwr mwyaf addas) neu 11(11) (y broses gystadleuol).
(5) Caniateir i ddarparwr gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i’r awdurdod perthnasol pan fo’r darparwr—
(a)wedi ei dramgwyddo gan benderfyniad awdurdod perthnasol i ddyfarnu contract i ddarparwr arall neu i gwblhau cytundeb fframwaith â darparwr o’r fath fel y nodir yn yr hysbysiad a gyhoeddir o dan baragraff (4), a
(b)yn credu y bu methiant i gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
(6) Rhaid cyflwyno sylwadau ysgrifenedig ym mharagraff (5) i’r awdurdod perthnasol cyn hanner nos ar ddiwedd yr wythfed diwrnod gwaith(1) ar ôl y diwrnod y mae’r cyfnod segur yn dechrau.
(7) Pan fo sylwadau yn dod i law’r awdurdod perthnasol yn unol â pharagraff (5), rhaid iddo—
(a)caniatáu cyfle pellach i’r darparwr a dramgwyddwyd i esbonio neu egluro’r sylwadau a wnaed fel y mae’r awdurdod perthnasol yn ystyried ei bod yn briodol, a
(b)darparu yn brydlon unrhyw wybodaeth y gofynnir amdani gan y darparwr a dramgwyddwyd pan fo gan yr awdurdod perthnasol ddyletswydd i gofnodi’r wybodaeth honno o dan reoliad 30 (gofynion gwybodaeth).
(8) Nid yw paragraff (7)(b) yn ei gwneud yn ofynnol darparu gwybodaeth pan fyddai ei darparu—
(a)yn rhagfarnu buddiannau masnachol dilys unrhyw berson, gan gynnwys rhai’r awdurdod perthnasol,
(b)o bosibl yn rhagfarnu cystadleuaeth deg rhwng darparwyr, neu
(c)yn groes i fudd y cyhoedd mewn rhyw fodd arall.
(9) Pan fo’n ofynnol, ar ôl i’r awdurdod perthnasol gydymffurfio â’r gofynion ym mharagraff (7), rhaid i’r awdurdod perthnasol adolygu’r penderfyniad i ddyfarnu’r contract neu gwblhau’r cytundeb fframwaith, gan ystyried y sylwadau a gyflwynwyd.
(10) Yn dilyn yr adolygiad ym mharagraff (9), rhaid i’r awdurdod perthnasol wneud penderfyniad pellach ynghylch pa un ai—
(a)i ymrwymo i’r contract neu gwblhau’r cytundeb fframwaith yn unol â’r bwriad ar ôl i’r cyfnod segur ddod i ben,
(b)i fynd yn ôl i gam cynharach yn y broses ddethol ac ailadrodd y cam hwnnw a’r camau dilynol yn unol â rheoliad 15, neu
(c)i roi’r gorau i’r caffaeliad yn unol â rheoliad 15.
(11) Rhaid cyfleu’r penderfyniad pellach ym mharagraff (10) yn brydlon, yn ysgrifenedig, gyda rhesymau—
(a)i bob darparwr a dramgwyddwyd a gyflwynodd sylwadau ysgrifenedig yn unol â pharagraff (5), a
(b)i bob darparwr yr oedd yr awdurdod perthnasol yn bwriadu, ar ddechrau’r cyfnod segur, dyfarnu’r contract iddo neu gwblhau’r cytundeb fframwaith ag ef.
(12) Yn dilyn penderfyniad pellach o dan baragraff (11), caiff yr awdurdod perthnasol wneud unrhyw nifer o benderfyniadau dilynol pellach, a phob un yn disodli’r penderfyniad blaenorol—
(a)i ymrwymo i’r contract neu gwblhau’r cytundeb fframwaith yn unol â’r bwriad ar ôl i’r cyfnod segur ddod i ben,
(b)i fynd yn ôl i gam cynharach yn y broses ddethol ac ailadrodd y cam hwnnw a’r camau dilynol yn unol â rheoliad 15, neu
(c)i roi’r gorau i’r caffaeliad yn unol â rheoliad 15.
(13) Rhaid cyfleu pob penderfyniad dilynol pellach o dan baragraff (12) yn brydlon, yn ysgrifenedig, gyda rhesymau—
(a)i bob darparwr a dramgwyddwyd a gyflwynodd sylwadau ysgrifenedig yn unol â pharagraff (5), a
(b)i bob darparwr yr oedd yr awdurdod perthnasol yn bwriadu, ar ddechrau’r cyfnod segur, dyfarnu’r contract iddo neu gwblhau’r cytundeb fframwaith ag ef.
(14) Pan na ddaw unrhyw sylwadau ysgrifenedig i law yn unol â pharagraff (5), daw’r cyfnod segur i ben am hanner nos ar ddiwedd yr wythfed diwrnod gwaith ar ôl y diwrnod y dechreuodd y cyfnod segur.
(15) Pan ddaw sylwadau ysgrifenedig i law yn unol â pharagraff (5), daw’r cyfnod segur i ben—
(a)ar y diwrnod—
(i)y mae’r awdurdod perthnasol wedi penderfynu ei fod yn barod i ymrwymo i’r contract neu gwblhau’r cytundeb fframwaith,
(ii)y mae’r awdurdod perthnasol wedi cyflawni’r gofynion a nodir ym mharagraffau (7), (9) a (10),
(iii)y mae’r awdurdod perthnasol wedi rhoi gwybod i ddarparwyr am ei benderfyniad pellach yn unol â pharagraff (11) ac unrhyw benderfyniadau dilynol pellach yn unol â pharagraff (13),
(iv)nad yw’r awdurdod perthnasol yn bwriadu gwneud unrhyw benderfyniadau dilynol pellach, neu ragor o benderfyniadau dilynol pellach, yn unol â pharagraff (12), a
(v)nad oes llai na 5 diwrnod gwaith wedi mynd heibio ers i’r awdurdod perthnasol roi gwybod i ddarparwyr am ei benderfyniad pellach diwethaf yn unol â pharagraff (11) neu (13), neu
(b)ar y diwrnod—
(i)y mae’r awdurdod perthnasol wedi penderfynu rhoi’r gorau i’r caffaeliad yn unol â rheoliad 15,
(ii)y mae’r awdurdod perthnasol wedi cyflawni’r gofynion a nodir ym mharagraffau (7), (9) a (10),
(iii)y mae’r awdurdod perthnasol wedi rhoi gwybod i ddarparwyr am ei benderfyniad pellach yn unol â pharagraff (11) ac unrhyw benderfyniadau pellach dilynol yn unol â pharagraff (13),
(iv)nad yw’r awdurdod perthnasol yn bwriadu gwneud unrhyw benderfyniadau pellach dilynol, neu ragor o benderfyniadau pellach dilynol, yn unol â pharagraff (12), a
(v)nad oes llai na 5 diwrnod gwaith wedi mynd heibio ers i’r awdurdod perthnasol roi gwybod i ddarparwyr am ei benderfyniad pellach diwethaf yn unol â pharagraff (11) neu (13), neu
(c)ar y diwrnod—
(i)y mae’r awdurdod perthnasol wedi penderfynu mynd yn ôl i gam cynharach yn y broses ddethol ac ailadrodd y cam hwnnw a chamau dilynol yn unol â’r weithdrefn berthnasol,
(ii)y mae’r awdurdod perthnasol wedi cyflawni’r gofynion a nodir ym mharagraffau (7), (9) a (10),
(iii)y mae’r awdurdod perthnasol wedi rhoi gwybod i ddarparwyr am ei benderfyniad pellach yn unol â pharagraff (11) ac unrhyw benderfyniadau pellach dilynol yn unol â pharagraff (13),
(iv)nad yw’r awdurdod perthnasol yn bwriadu gwneud unrhyw benderfyniadau pellach dilynol, neu ragor o benderfyniadau pellach dilynol, yn unol â pharagraff (12), a
(v)nad oes llai na 5 diwrnod gwaith wedi mynd heibio ers i’r awdurdod perthnasol roi gwybod i ddarparwyr am ei benderfyniad pellach diwethaf yn unol â pharagraff (11) neu (13).
(16) Ym mharagraffau (10)(b), (12)(b) a (15)(c)(i), mae cyfeiriad at gam yn y broses ddethol yn gyfeiriad at gam y cyfeirir ato yn rheoliad 8 (proses dyfarniad uniongyrchol 1), 9 (proses dyfarniad uniongyrchol 2), 10 (y broses darparwr mwyaf addas) neu 11 (y broses gystadleuol).
13.—(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan ddilynwyd Proses Dyfarniad Uniongyrchol 1 ar gyfer dyfarnu contract yn wreiddiol. Caniateir addasu’r contract yn ystod ei gyfnod heb ddilyn proses gaffael newydd o dan y Rheoliadau hyn pan na fo’r addasiad yn gwneud y contract yn sylweddol wahanol o ran cymeriad.
(2) Mae paragraff (3) yn gymwys pan ddilynwyd Proses Dyfarniad Uniongyrchol 2, y Broses Darparwr Mwyaf Addas neu’r Broses Gystadleuol ar gyfer dyfarnu contract neu gwblhau cytundeb fframwaith yn wreiddiol.
(3) Ni chaniateir addasu’r contract neu’r cytundeb fframwaith am wasanaethau iechyd perthnasol yn ystod ei gyfnod heb ddilyn proses gaffael newydd o dan y Rheoliadau hyn ond pan fo un neu ragor o’r amodau ym mharagraff (4) yn gymwys.
(4) Yr amodau yw—
(a)y darperir ar gyfer yr addasu yn glir ac yn ddiamwys yn y contract neu’r cytundeb fframwaith,
(b)bod yr addasiad yn newid yn hunaniaeth y darparwr yn unig oherwydd olyniaeth i mewn i sefyllfa darparwr yn dilyn newidiadau corfforaethol gan gynnwys, er enghraifft, meddiannu, uno, caffael, neu ansolfedd a bod yr awdurdod perthnasol wedi ei fodloni bod y darparwr yn bodloni’r meini prawf dethol sylfaenol,
(c)nad yw’r addasiad yn gwneud y contract na’r cytundeb fframwaith yn sylweddol wahanol o ran cymeriad a’i fod wedi ei wneud mewn ymateb i ffactorau allanol sydd y tu hwnt i reolaeth yr awdurdod perthnasol a’r darparwr gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig—
(i)i newidiadau yn nifer y cleifion neu ddefnyddwyr gwasanaethau, neu
(ii)i newidiadau mewn prisiau yn unol â fformiwla y darperir ar ei chyfer yn y contract, neu
(d)y bo modd priodoli’r addasiad i benderfyniad yr awdurdod perthnasol a bod y ddau faen prawf ym mharagraff (5) wedi eu bodloni.
(5) Y meini prawf yw—
(a)nad yw’r addasiad yn gwneud y contract neu’r cytundeb fframwaith yn sylweddol wahanol o ran cymeriad, a
(b)bod y newid cronnus yng ngwerth oes amcangyfrifedig y contract neu’r cytundeb fframwaith ers ymrwymo iddo neu ers ei gwblhau—
(i)yn llai na £500,000, neu
(ii)yn llai na 25% o werth oes amcangyfrifedig y contract presennol neu’r cytundeb fframwaith presennol pan ymrwymwyd iddo neu y’i cwblhawyd.
(6) Rhaid i’r awdurdod perthnasol gyflwyno i’w gyhoeddi hysbysiad am yr addasiad—
(a)pan fo addasiad yn cael ei wneud i gontract neu gytundeb fframwaith yn unol â pharagraff (1) neu (3),
(b)pan fo modd priodoli’r addasiad i benderfyniad yr awdurdod perthnasol, ac
(c)pan fo’r newid cronnus yng ngwerth oes amcangyfrifedig y contract ers ymrwymo iddo, neu’r cytundeb fframwaith ers ei gwblhau, yn £500,000 neu fwy.
(7) Rhaid i’r hysbysiad ym mharagraff (6)—
(a)cynnwys yr wybodaeth a nodir yn Atodlen 13, a
(b)cael ei gyflwyno i’w gyhoeddi o fewn 30 o ddiwrnodau i addasu’r contract neu’r cytundeb fframwaith.
14.—(1) Caniateir i’r awdurdod perthnasol ddyfarnu neu addasu contract heb fodloni’r gofynion yn rheoliadau 7 i 13 pan fo’r amodau ym mharagraff (2) wedi eu bodloni.
(2) Yr amodau yw pan fo awdurdod perthnasol yn ystyried—
(a)bod rhaid dyfarnu neu addasu contract ar frys,
(b)na wnaeth yr awdurdod perthnasol rag-weld y rheswm dros y brys ac nad oedd modd priodoli’r rheswm dros y brys i’r awdurdod perthnasol, ac
(c)y byddai gohirio dyfarnu neu addasu’r contract er mwyn bodloni gofynion rheoliadau 7 i 13 yn debygol o beri risg i ddiogelwch cleifion neu ddiogelwch y cyhoedd.
(3) Caniateir i’r awdurdod perthnasol addasu contract presennol heb fodloni’r gofynion yn rheoliadau 7 i 13 pan fo’r amodau ym mharagraff (4) wedi eu bodloni.
(4) Yr amodau yw—
(a)bod awdurdod perthnasol wedi cychwyn proses gaffael o dan y Rheoliadau hyn i ddyfarnu contract,
(b)bod cyfnod segur wedi dechrau yn unol â rheoliad 12(4),
(c)bod yr awdurdod perthnasol wedi ceisio cyngor arbenigol annibynnol yn unol â rheoliad 29 yn y cyfnod segur,
(d)bod contract presennol am y gwasanaethau iechyd perthnasol y mae’r trefniant contractio arfaethedig yn berthnasol iddynt a bod yr awdurdod perthnasol yn ystyried bod cyfnod y contract hwnnw yn debygol o ddod i ben cyn diwedd y cyfnod segur,
(e)bod yr awdurdod perthnasol yn ystyried ei bod yn angenrheidiol neu’n hwylus addasu’r contract presennol cyn i’r contract newydd gymryd effaith er mwyn sicrhau parhad rhwng y contract presennol a dyfarniad arfaethedig y contract newydd, ac
(f)bod yr awdurdod perthnasol yn ystyried nad yw’n bosibl bodloni gofynion rheoliadau 7 i 13 cyn i gyfnod y contract presennol ddod i ben.
(5) Pan fo paragraff (1) yn gymwys, rhaid i’r awdurdod perthnasol gyflwyno hysbysiad am ddyfarnu’r contract, neu’r addasiad, i’w gyhoeddi.
(6) Rhaid i’r hysbysiad ym mharagraff (5)—
(a)cael ei gyflwyno i’w gyhoeddi o fewn 30 o ddiwrnodau i ddyfarnu’r contract ar frys neu addasu’r contract ar frys, a
(b)yn achos—
(i)dyfarniad brys, gynnwys yr wybodaeth a nodir yn Atodlen 14;
(ii)addasiad brys, gynnwys yr wybodaeth a nodir yn Atodlen 15.
15.—(1) Ar unrhyw adeg cyn dyfarnu contract neu gwblhau cytundeb fframwaith, caniateir i awdurdod perthnasol—
(a)dewis peidio â dyfarnu contract neu beidio â chwblhau cytundeb fframwaith a rhoi’r gorau i gaffael gwasanaethau iechyd perthnasol o dan y Rheoliadau hyn, neu
(b)mynd yn ôl i gam cynharach yn y broses ddethol ac ailadrodd y cam hwnnw a chamau dilynol.
(2) Ni chaniateir i awdurdod perthnasol ond penderfynu rhoi’r gorau i gaffaeliad o dan baragraff (1)(a) neu fynd yn ôl i gam cynharach o dan baragraff (1)(b) yn ystod y cyfnod segur pan fo’r penderfyniad hwnnw yn unol â’r weithdrefn a’r gofynion yn rheoliad 12.
(3) Pan fo awdurdod perthnasol yn gwneud penderfyniad y cyfeirir ato ym mharagraff (2), ni chaiff yr awdurdod perthnasol ond rhoi’r gorau i’r caffaeliad neu ailadrodd y camau hynny ar ôl i’r cyfnod segur ddod i ben.
(4) Pan fo awdurdod perthnasol yn dewis peidio â dyfarnu contract neu beidio â chwblhau cytundeb fframwaith ac yn rhoi’r gorau i’r caffaeliad o dan baragraff (1)(a), rhaid iddo gyflwyno i’w gyhoeddi hysbysiad am y penderfyniad hwnnw.
(5) O ran yr hysbysiad ym mharagraff (4)—
(a)pan fo’r penderfyniad wedi ei wneud mewn cyfnod segur, rhaid ei gyflwyno i’w gyhoeddi—
(i)ar ôl i’r cyfnod segur ddod i ben, a
(ii)o fewn 30 o ddiwrnodau i ddiwedd y cyfnod segur hwnnw;
(b)mewn unrhyw achos arall, rhaid ei gyflwyno i’w gyhoeddi o fewn 30 o ddiwrnodau i’r penderfyniad i roi’r gorau i’r caffaeliad;
(c)rhaid iddo gynnwys yr wybodaeth a nodir yn Atodlen 17.
(6) Pan fo awdurdod perthnasol yn penderfynu ailadrodd cam o dan baragraff (1)(b), rhaid i’r awdurdod perthnasol hysbysu darparwyr perthnasol am y penderfyniad hwnnw yn ysgrifenedig.
(7) Mae paragraff (6) wedi ei fodloni naill ai—
(a)pan fo penderfyniad i ailadrodd cam neu gamau wedi ei wneud yn unol â rheoliad 12(10)(b) ac wedi ei gyfleu i ddarparwr yn unol â rheoliad 12(11), neu
(b)pan fo penderfyniad i ailadrodd cam neu gamau wedi ei wneud yn unol â rheoliad 12(12)(b) ac wedi ei gyfleu i ddarparwr yn unol â rheoliad 12(13).
(8) Yn y rheoliad hwn—
(a)mae cyfeiriad at gam yn y broses ddethol yn gyfeiriad at gam y cyfeirir ato yn rheoliad 8 (proses dyfarniad uniongyrchol 1), 9 (proses dyfarniad uniongyrchol 2), 10 (y broses darparwr mwyaf addas) neu 11 (y broses gystadleuol);
(b)ystyr “darparwyr perthnasol” ym mharagraff (6) yw unrhyw ddarparwr sydd wedi cael gwybod yn y broses ddethol ei fod yn cael ei ystyried ar gyfer dyfarnu contract neu i fod yn barti i gytundeb fframwaith.
Diffinnir “diwrnod gwaith” yn Atodlen 1 i Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (dccc 4).