Rhoi’r gorau i gaffaeliad neu ailadrodd camau mewn proses gaffael
15.—(1) Ar unrhyw adeg cyn dyfarnu contract neu gwblhau cytundeb fframwaith, caniateir i awdurdod perthnasol—
(a)dewis peidio â dyfarnu contract neu beidio â chwblhau cytundeb fframwaith a rhoi’r gorau i gaffael gwasanaethau iechyd perthnasol o dan y Rheoliadau hyn, neu
(b)mynd yn ôl i gam cynharach yn y broses ddethol ac ailadrodd y cam hwnnw a chamau dilynol.
(2) Ni chaniateir i awdurdod perthnasol ond penderfynu rhoi’r gorau i gaffaeliad o dan baragraff (1)(a) neu fynd yn ôl i gam cynharach o dan baragraff (1)(b) yn ystod y cyfnod segur pan fo’r penderfyniad hwnnw yn unol â’r weithdrefn a’r gofynion yn rheoliad 12.
(3) Pan fo awdurdod perthnasol yn gwneud penderfyniad y cyfeirir ato ym mharagraff (2), ni chaiff yr awdurdod perthnasol ond rhoi’r gorau i’r caffaeliad neu ailadrodd y camau hynny ar ôl i’r cyfnod segur ddod i ben.
(4) Pan fo awdurdod perthnasol yn dewis peidio â dyfarnu contract neu beidio â chwblhau cytundeb fframwaith ac yn rhoi’r gorau i’r caffaeliad o dan baragraff (1)(a), rhaid iddo gyflwyno i’w gyhoeddi hysbysiad am y penderfyniad hwnnw.
(5) O ran yr hysbysiad ym mharagraff (4)—
(a)pan fo’r penderfyniad wedi ei wneud mewn cyfnod segur, rhaid ei gyflwyno i’w gyhoeddi—
(i)ar ôl i’r cyfnod segur ddod i ben, a
(ii)o fewn 30 o ddiwrnodau i ddiwedd y cyfnod segur hwnnw;
(b)mewn unrhyw achos arall, rhaid ei gyflwyno i’w gyhoeddi o fewn 30 o ddiwrnodau i’r penderfyniad i roi’r gorau i’r caffaeliad;
(c)rhaid iddo gynnwys yr wybodaeth a nodir yn Atodlen 17.
(6) Pan fo awdurdod perthnasol yn penderfynu ailadrodd cam o dan baragraff (1)(b), rhaid i’r awdurdod perthnasol hysbysu darparwyr perthnasol am y penderfyniad hwnnw yn ysgrifenedig.
(7) Mae paragraff (6) wedi ei fodloni naill ai—
(a)pan fo penderfyniad i ailadrodd cam neu gamau wedi ei wneud yn unol â rheoliad 12(10)(b) ac wedi ei gyfleu i ddarparwr yn unol â rheoliad 12(11), neu
(b)pan fo penderfyniad i ailadrodd cam neu gamau wedi ei wneud yn unol â rheoliad 12(12)(b) ac wedi ei gyfleu i ddarparwr yn unol â rheoliad 12(13).
(8) Yn y rheoliad hwn—
(a)mae cyfeiriad at gam yn y broses ddethol yn gyfeiriad at gam y cyfeirir ato yn rheoliad 8 (proses dyfarniad uniongyrchol 1), 9 (proses dyfarniad uniongyrchol 2), 10 (y broses darparwr mwyaf addas) neu 11 (y broses gystadleuol);
(b)ystyr “darparwyr perthnasol” ym mharagraff (6) yw unrhyw ddarparwr sydd wedi cael gwybod yn y broses ddethol ei fod yn cael ei ystyried ar gyfer dyfarnu contract neu i fod yn barti i gytundeb fframwaith.